Mae Ymddiriedolaeth Y Tabernacl Machynlleth wedi penodi Emily Bartlett yn Rheolwr Gyfarwyddwr cynta’r sefydliad.

Cafodd y swydd newydd ei chreu er mwyn datblygu’r gwaith sydd wedi’i wneud yn y ganolfan dros y degawdau diwethaf, diolch i gefnogaeth teulu Lambert a chronfa elusennol Garthgwynion.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dweud bod y penodiad yn hanfodol er mwyn symud y ganolfan yn ei blaen, wrth iddyn nhw edrych tua’r dyfodol.

Pwy yw Emily Bartlett?

Cyfarwyddwr Eastside Venues yn y Conservatoire ym Mhrifysgol Dinas Birmingham yw Emily Bartlett.

Mae hi’n atebol yn ei swydd i Julian Lloyd Webber, gyda’i chyfrifoldebau’n cynnwys datblygu polisi, datblygu’r rhaglen ac archebion, marchnata, datblygu cynulleidfa, rhedeg y sefydliad a datblygu pum lleoliad perfformio newydd.

Ar ôl graddio mewn Hanes Celf ac Athroniaeth o Athrofa Celfyddydd Gain Barber yn Birmingham, dilynodd hi gwrs datblygu arweinwyr Clore yn 2013.

Yn y gorffennol, bu’n gweithio fel trefnydd a rheolwr cyngherddau a threfnydd gwyliau.

“Rydym yn hapus iawn o fedru cyhoeddi apwyntiad Emily Bartlett,” meddai Alun Jones, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Y Tabernacl, Machynlleth.

“Mae wedi cael ystod o brofiadau gwerthfawr yn y byd celfyddydol fydd yn gaffaeliad mawr wrth i ni barhau i ddatblygu gweithgareddau’r Tabernacl.”

Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd fis nesaf. Fel rhan o’i chytundeb, fe fydd hi’n dysgu Cymraeg o fewn dwy flynedd.