Mae ymgyrchwyr o’r gogledd yn ystyried peidio â chael plant oherwydd eu pryderon am newid hinsawdd.

Bydd grŵp Extinction Rebellion Gogledd Cymru yn cynnal gorymdaith dros y penwythnos fel protest yn erbyn cynhesu byd eang.

Ac yn ystod y daith, mi fydd ymgyrchwyr yn gwthio pramiau gwag er mwyn tynnu sylw at effaith newid hinsawdd ar y genhedlaeth nesa’.

Un o’r rheiny sy’n ystyried peidio â chael plentyn – ac un a fydd yn ymuno â’r orymdaith – yw Macey Gray, 19, Cydlynydd Lleol Extinction Rebellion yn y gogledd.

“Os wnawn ni barhau fel hyn – ac os wneith Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] barhau fel hyn – fe fyddwn yn cyrraedd pwynt lle byddwn yn methu gwneud unrhyw beth,” meddai wrth gowlg360.

“Mi fydd yn drychineb llwyr. Bydd mwy o dywydd eithafol. A dw i ddim yn credu bydd hi’n saff i ni ddod â phlant i mewn i’r byd hwnnw.

“Dw i wastad wedi eisiau cael plant. Ond dw i ddim yn teimlo bod hynny’n opsiwn synhwyrol ar hyn o bryd. Dw i’n gwybod pa mor wael mae newid hinsawdd, a sut bydd yn ein heffeithio.”

Does gan Macey Gray ddim plant, ac mae’n cydnabod y byddai peidio â chael plant yn “benderfyniad mawr i’w wneud”.

Cyngor Conwy

Buodd Extintion Rebellion yn gwrthdystio yng Nghonwy ar ddydd Iau (Mai 9), wrth i’r Cyngor Sir ystyried cynnig i ddatgan “argyfwng newid hinsawdd”.

Roedd Macey Gray yn rhan o’r digwyddiad, ac mae’n dweud ei fod yn “grêt” bod y cynnig wedi cael ei basio. Yn sgil hyn, rhaid i’r Cyngor weithredu, meddai.

“Geiriau yn unig yw datgan argyfwng newid hinsawdd,” meddai. “Bydda angen iddyn nhw weithredu er mwyn cefnogi hynny.”

Dyw Extinction Rebellion ddim yn fodlon ag ymrwymiad Conwy yn unig, ac mae’r ymgyrchydd yn dweud bod angen i gynghorau eraill y gogledd efelychu’r cam.

“Mae Ynys Môn ar ein hagenda,” meddai. “Dw i’n gobeithio bydd y cynghorau sydd ddim wedi datgan yn barod, yn teimlo’r pwysau i wneud hynny.”

Yr orymdaith

Bydd yr orymdaith yn cael ei gynnal ar ddydd Sul (Mai 12) ym Mangor, ac yn cyd-daro â diwrnod rhyngwladol y mamau.

Mi fydd yn dechrau ym maes parcio Glanrafon, ac yn gorffen ger canolfan siopa Deiniol.