Bydd yr opera gyntaf i gael ei chyfansoddi yn Gymraeg yn cael ei pherfformio yn America heddiw.

Fe gafodd Blodwen ei chreu gan Joseph Parry, y gŵr a gyfansoddodd ‘Myfanwy’ ac ‘Aberystwyth’.

Mae’r “mwyafrif helaeth” o waith y cyfansoddwr wedi mynd yn angof, yn ôl Frank Bott, academydd sydd wedi sgwennu llyfr am y gŵr tu ôl i’r opera gyntaf yn Gymraeg.

Mae Frank Bott yn croesawu perfformiad Blodwen heddiw, ac yn datgelu ei fod wedi cyfrannu at raglen y perfformiad. Ond mae yn drist nad yw mwy o waith y cyfansoddwr yn ennyn yr un sylw.

“Mae ei emyn-dôn, ‘Aberystwyth’, yn sicr yn [boblogaidd o hyd],” meddai wrth golwg360. “Mae’n cael ei chanu ledled y byd.

“Mae cân ‘Myfanwy’ yn dal yn fyw, ac yn cael ei pherfformio yn aml gan gorau Cymreig ac mewn eisteddfodau lleol. Mae sawl un o’i emyn-donau yn boblogaidd iawn mewn capeli Cymreig.

“Mae ambell ddarn o Blodwen yn cael eu canu yn rheolaidd mewn eisteddfodau a chyngherddau eraill yng Nghymru. Ond dyw hynny ddim yn wir am y mwyafrif helaeth o’i gerddoriaeth.”

Blodwen

Gan ddechrau ar ddydd Gwener, bydd cyfres o berfformiadau o Blodwen yn cael eu cynnal yn Billings, yn nhalaith Montana, yn yr Unol Daleithiau.

Hon oedd yr opera Gymraeg gyntaf, a bydd y perfformiadau yn cael eu cynnal yn yr iaith wreiddiol gydag uwchdeitlau Saesneg.

Dyma fydd y cynhyrchiad llwyfan cyntaf o’r opera yn yr Unol Daleithiau, ond mae Frank Bott yn egluro bod rhannau ohoni wedi cael eu perfformio yno o’r blaen.

“Dyma’r cynhyrchiad llawn cyntaf o Blodwen yn yr Unol Daleithiau,” meddai.

“Ond yn yr 1890au fe aeth [Joseph Parry] i America gyda grŵp bach o gantorion, a gwnaethon nhw berfformio rhannau o’r opera mewn sawl man gwahanol …

“Cawson nhw ei hanelu at y gymuned Gymraeg. A dw i ddim yn credu wnaethon nhw berfformio i unrhyw un arall. Ond roedden nhw’n hynod o boblogaidd ymhlith y gymuned Gymraeg.”

Joseph Parry

Cafodd Joseph Parry ei eni yn 1841 ym Merthyr Tudful, ac ef oedd y Cymro cyntaf i gyfansoddi opera.

Rhwng 1851 a 1873 bu’n byw yn yr Unol Daleithiau, a bu farw yn ei gartref ym Mhenarth yn 1903.