Mae cyfoeth biliwnyddion Cymru wedi cynyddu 5.8% mewn blwyddyn, yn ôl The Sunday Times Rich List.
Syr Michael Moritz, y dyn mentrau cyfalafol (venture capitalist) o Gaerdydd yw person cyfoethocaf Cymru gyda ffortiwn o £3 biliwn, gyda’i gyfoeth wedi codi £37 miliwn mewn blwyddyn.
Fe gafodd ei eni yng Nghaerdydd ond mae yn byw yn San Francisco.
Cyd-sylfaenydd Specsavers, Douglas Perkins o Lanelli, sy’n parhau i fod yn ail ar y rhestr Gymreig gyda £1.8bn a chynnydd o £100m eleni.
Yn drydydd mae cyd-sylfaenydd Moneysupermarket.com, Simon Nixon o Sir y Fflint, sydd â ffortiwn o £1.36bn, ac mae wedi ei gynyddu £110m mewn blwyddyn.
Yn bedwerydd mae perchennog y Celtic Manor, Syr Terry Matthews, sydd werth £1.24bn ar ôl gweld cynnydd enfawr o £165m.
Yn cwblhau’r pump uchaf mae perchennog West Ham United, David Sullivan o Gaerdydd, gydag £1.15bn ac wedi gwneud £50m yn ychwanegol eleni.
Y Cymry cyfoethocaf
- Syr Michael Moritz – £3bn
- Douglas Perkins a’i deulu – £1.8bn
- Simon Nixon – £1.36bn
- Syr Terry Matthews – £1.24bn
- David Sullivan a’i deulu – £1.15bn
- Steve Morgan – £950m
- Henry Engelhardt a Diane Briere de l’Isle – £845m
- Lawrence Jones a’i deulu – £700m
- John Deer – £608m
- Mark Watkin Jones a’i deulu – £300m