Mae angen i Gymru gynyddu nifer y meddygon plant er mwyn sicrhau safon addas o ofal i’r genhedlaeth ifanc, yn ol adroddiad newydd.

Fe all iechyd plant fod mewn sefyllfa fregus os nad yw’r diffyg meddygon yn cael ei ddatrys yn sydyn, yn ôl Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

Er mwyn datrys y broblem, mae’r adroddiad yn dweud bod angen o leiaf 73 meddyg plant ychwanegol- cynnydd o 42% – er mwyn cyrraedd y lefel o ofal sydd ei angen.

Tra mae’r nifer o feddygon wedi cynyddu rhwng 2015 a 2017, dim ond o 2.9% oedd y cynnydd hwnnw – sy’n gynnydd llawer llai na’r cynnydd o 6.4% welwyd yn Llundain dros yr un cyfnod.

Argymhellion

Mae adroddiad Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn nodi nifer o argymhellion i daclo’r broblem:

  • Datblygu strategaeth benodol i ddelio â gweithlu iechyd plant sy’n cynnwys amrywiaeth o ddoctoriaid, bydwragedd, nyrsys, fferyllwyr a nyrsys ysgol;
  • Angen i Lywodraeth Cymru gynyddu’r cyfleoedd hyfforddi;
  • Ychwanegu blwyddyn i hyfforddiant meddygon teulu sy’n cynnwys chwe mis yn canolbwyntio’n benodol ar drin plant;
  • Cynnig cymhelliad ariannol i gadw gafael ar feddygon plant yn ogystal â denu mwy i’r swydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

“Blaenoriaeth”

Yn ôl Dr David Tuthill, o Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, mae’r adroddiad yn adlewyrchu difrifoldeb y diffyg gofal i blant.

“Mae angen i’r diffyg meddygon plant fod yn flaenoriaeth. Os nad oes cynnydd yn nifer y llefydd hyfforddi yna byddwn yn gweld mwy o fylchau mewn rotas ar hyd Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig,” meddai

“Rydw i’n erfyn ar Lywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a’r byrddau iechyd lleol i ystyried ein hargymhellion yn ofalus, ac fel mater o frys.”

“Bydd methu â chymryd y camau angenrheidiol nawr yn niweidiol i’n plant nawr ac yn y dyfodol.”