Mae disgwyl i “gannoedd” o bobol orymdeithio o blaid annibyniaeth dros y penwythnos, yn ôl trefnydd.

Ar dydd Sadwrn bydd gorymdaith ‘Pawb dan Un Faner’ yn ymlwybro trwy Gaerdydd gan ddenu cenedlaetholwyr o Gymru gyfan.

Mi fydd yn dechrau am 1.30 y prynhawn, ac mae disgwyl iddo bara am dua awr cyn dod i ben yng nghanol y brifddinas.

Mae Sion Jobins, un o Sylfaenwyr mudiad YesCymru, wedi bod ynghlwm â’r trefnu ac yn gobeithio gweld “cwpwl o filoedd” yn cymryd rhan.

Dyma’r rali “cyntaf erioed dros annibyniaeth,” meddai gan ategu ei fod yn gyfle i ddangos nerth y gefnogaeth i annibyniaeth.

“[Bydd yr orymdaith yn dangos] ein bod yn genedl, ac ein bod ni eisiau bod yn annibynnol,” meddai wrth golwg360. “A dyna ydi’r ffordd orau i Gymru.

“Mae San Steffan yn fethiant ac mae’n con. Dyw’r holl drafferthion rydym ni’n ei gael ddim yn dod o Ewrop. Maen nhw’n dod o San Steffan…

“Mae’n bwysig rhoi’r neges i bobol bod Cymru ddim yn mynd i gael ei gadael ar ôl. Mae Iwerddon yn mynd i ailuno, a dw i’n credu bydd yr Alban yn pleidleisio tro annibyniaeth.

“Felly ymhen deg mlynedd bydd gennym ddewis – aros yn rhan o Loegr, neu droi’n wlad annibynnol. Dw i methu gweld unrhyw ffordd arall.”

“Diogi” Caerdydd

Mae YesCymru wedi trefnu pedwar bws a fydd yn cludo pobol i’r orymdaith o orllewin a gogledd Cymru. Ac mae Sion Jobins yn croesawu’r ffaith bod llawer yn teithio o bell i gymryd rhan.

Ond, mae’n rhybuddio nad oes modd dibynnu’n unig ar Gymry’r Fro Gymraeg, ac mae’n erfyn ar bobol de ddwyrain Cymry i ymuno â’r digwyddiad.

“Mae’r diogi yna yn gorfod stopio,” meddai. “Mae’n rhaid i bobol Caerdydd troi lan a chefnogi hwn. Bydd e dim ond yn cymryd awr. Maen nhw’n mynd i dre ta beth pob dydd Sadwrn.

“Mae’n rhaid i bobol Caerdydd, Pontypridd, y Cymoedd, y Bari a Phen-y-bont ar Ogwr gefnogi hwn. A dw i’n credu y byddan nhw.”