Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iichyd, Vaughan Gething, wedi ei thechu yn y Cynulliad.
Oedd
Fe gafodd ei galw gan Blaid Cymru yn dilyn yhoeddi’r adroddiad annibynnol ar wasanaethau mamolaeth yng nghyn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Mae’r adroddiad yn amlinellu pryderon mawr ynglŷn â methiannau difrifol yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf.
Fe alwodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ar Vaughan Gething i ymddiswyddo yn y Senedd yr wythnos diwethaf.
“Adroddiad brawychus”
Yn ôl Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru, Helen Mary Jones, roedd yr adroddiad ar Gwm Taf yn un “brawychus a thrist.”
“Bu plant farw. Dioddefodd teuluoedd loes enbyd. Alla’i ddim gorbwysleisio difrifoldeb a maint y methiannau hyn. Beth arall sy’n gorfod digwydd cyn i’r Gweinidog ysgwyddo’r cyfrifoldeb? Mae Gweinidogion wedi ymddiswyddo am lai yn y gorffennol.”
Dywed Aelod Cynulliad Plaid Cymru fod beth sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf “yn rhan o batrwm ehangach” yn ansawdd gofal a llywodraethant byrddau Iechyd yng Nghymru.
Mae tri sgandal mawr wedi bod dros y chwe blynedd diwethaf, mae Helen Mary Jones yn esbonio.
Adroddiad Cwm Taf
Cafodd adolygiad Cwm Taf ei gynnal gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.
Dangosodd honno ac adroddiad arall bod:
- Staff “o dan bwysau sylweddol” ac yn gweithio o dan arweinyddiaeth “israddol”
- Prinder staff, diffyg cefnogaeth i ddoctoriaid ifanc a diffyg ymwybyddiaeth am ganllawiau
- Rhai merched wedi cael eu hanwybyddu gan staff ar ôl codi pryderon ynghylch eu beichiogrwydd, gyda hynny’n arwain at golli babanod mewn rhai achosion.
- Rhai merched a’u teuluoedd ddim wedi derbyn unrhyw gwnsela neu gefnogaeth yn sgil colli babi, ac yn parhau i ddioddef yn emosiynol