Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Colwyn Williamson, cyn-ddarlithydd Athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe a sosialydd blaenllaw, sydd wedi marw yn 80 oed.

Fe ddaeth i’r ddinas yn sosialydd brwd yn y 1960au, ac yntau’n aelod o’r Grŵp Sosialwyr Rhyngwladol.

Roedd yn siaradwr brwd mewn ralïau a phrotestiadau gwleidyddol y ddinas a thu hwnt, ac fe ddaeth yn arweinydd Cyngor Masnach Abertawe.

Roedd yn weithgar hefyd adeg Streic y Glowyr, ac yn drefnydd protestiadau adeg ymweliad Margaret Thatcher â’r ddinas.

Ar ôl gadael y Blaid Sosialaidd, roedd yn dal yn weithgar ym mudiad Stopiwch y Rhyfel ac yn undeb AUT Abertawe.

Darlithydd

Yn y 1990au, cafodd Colwyn Williamson ei hun ynghanol ffrae yn Adran Athroniaeth Prifysgol Abertawe.

Roedd yn un o dri darlithydd oedd wedi cwestiynu ansawdd cyrsiau ôl-raddedig yr adran, ac gafodd e a’i gydweithiwr Mike Cohen eu cau allan o’u swyddfa gyda’r bygythiad o golli eu swyddi.

Ond cawson nhw’r hawl i ddychwelyd yn ddiweddarach, gan sefydlu’r Ymgyrch tros Ryddid a Safonau Academaidd.

Roedd hefyd yn ffigwr blaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn cau’r Adran Athroniaeth fel rhan o gynllun ehangach i drawsnewid adrannau’r brifysgol pan ddaeth yr Athro Richard B. Davies yn Is-ganghellor ar droad y ganrif.

Asgell chwith Abertawe

Mae’n gadael gwraig a phedwar o blant.

“Roedd e’n ffigwr canolog ar asgell chwith Abertawe am ddegawdau, o fewn gweithgarwch yr undebau llafur ac wrth ymgyrchu, gan greu gwaddol sy’n tanlinellu gweithgarwch ymgyrchwyr lleol hyd heddiw,” meddai’r deyrnged gan ei gyd-ymgyrchwyr a chydweithwyr ar wefan www.socialistworker.co.uk.