Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio yn dilyn bwrgleriaeth gwerth bron i £30,000 mewn siop feics yn y Drenewydd.

Fe ddigwyddodd toc ar ôl 3 o’r gloch fore Sadwrn (Mai 4), wrth i fan Transit wen daro i mewn i adeilad Freestyle Bikes ym Mharc Busnes St Giles.

Cafodd dau feic Yamaha glas a gwyn eu dwyn, ynghyd â beic Husqvarna glas a gwyn. Gyda’i gilydd, maen nhw’n costio £18,649.

Cafodd difrod gwerth mwy na £12,000 ei achosi i’r adeilad.

Apêl

Mae’r heddlu’n credu bod tri dyn ynghlwm wrth y digwyddiad, a bod ganddyn nhw acenion Lerpwl.

Roedd y fan yn teithio i mewn i’r Drenewydd am oddeutu 1 o’r gloch y bore, ac fe adawodd tua 3.10yb.

Cafwyd hyd i’r fan yn ardal Llys Dulas yn y Drenewydd yn ddiweddarach, ond mae’r heddlu’n dal i chwilio am yr unigolion.