Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn beirniadu Prifysgol Bangor am hysbysebu pedair swydd nyrsio heb grybwyll y Gymraeg yn sgil hanfodol.

Daw hyn wythnosau ar ôl i’r Coleg ar y Bryn dorri swydd cyfrwng Cymraeg yn y maes.

Fe gafodd y bifysgol wared å swydd nyrsio cyfrwng Cymraeg ym maes anabledd dysgu fel rhan o raglen o doriadau ym mis Ebrill.

Nawr, mae pedair swydd nyrsio yn nodi’r Gymraeg fel ‘sgil dymunol’ yn unig.

Llythyr

Mewn llythyr at Gomisiynydd yr Iaith mae Cadeirydd Grŵp Iechyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gwerfyl Roberts, yn honni nad yw’r Brifysgol “wedi ymrwymo i warchod ei chapasiti dwyieithog yn sgil effaith y toriadau, nac ymdrechu i sicrhau dyfodol nyrsio anabledd dysgu cyfrwng Cymraeg”.

Mae hyn “yn mynd yn groes i Bolisi Iaith a Chynllun Gweithredu Prifysgol Bangor,” meddai.

“Galw am y Gymraeg”

Yn ôl Gwerfyl Roberts mae tystiolaeth gynyddol yn dangos y “trafferthion difrifol sy’n wynebu pobol gydag anabledd dysgu” pan maen nhw’n cyrchu gwasanaethau iechyd.

“Dengys deddfwriaeth a pholisi diweddar Lywodraeth Cymru fod angen nyrsys arbenigol yn y maes yn fwy nag erioed, ac yn enwedig i ateb y galw cynyddol am wasanaethau Cymraeg,” meddai.

“O ystyried buddsoddiad hael y Coleg Cymraeg Cenedlaethol dros y blynyddoedd, sydd wedi galluogi Prifysgol Bangor i arwain y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg nyrsio ar lefel genedlaethol, mae’r toriadau arfaethedig yn gywilyddus.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Bangor am ymateb.