Bydd ymgyrchwyr o wahanol bleidiau a grwpiau yn gorymdeithio “dan un faner” yn ninas Caerdydd ddiwedd yr wythnos er mwyn hyrwyddo’r syniad o annibyniaeth i Gymru.

Yn ôl Pawb Dan Un Faner, trefnwyr y digwyddiad, dyma’r “orymdaith gyntaf erioed” dros annibyniaeth i Gymru.

Mae’r mudiad “llawr gwlad” yn dwyn ysbrydoliaeth o fudiad All Under One Banner yn yr Alban, ac mae’n cael ei gefnogi gan nifer o grwpiau sydd â’r nod o sicrhau annibyniaeth.

Ymhlith yr ymgyrchwyr fydd yn bresennol yn yr orymdaith ddydd Sadwrn (Mai 11) fydd unigolion o Blaid Cymru, YesCymru ac Undod.

Annibyniaeth i Gymru

“Mae’r ddadl dros ddyfodol cyfansoddiadol Cymru wedi dwysáu ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Llywelyn ap Gwilym, llefarydd ar ran Pawb Dan Un Faner.

“Mae nifer o grwpiau sy’n credu y byddai gan Gymru a’r Cymry ddyfodol gwell fel gwlad annibynnol y tu allan i’r Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys YesCymru ac Undod, wedi ymdrechu i ymgysylltu â’r cyhoedd a dod â’r ddadl i’r brif ffrwd.

“Mae yna sylweddoliad cynyddol bod annibyniaeth yn beth cyffredin.”

Yr orymdaith

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 1.30yp y tu allan i Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ac yn teithio ar hyd Heol y Frenhines a’r Aes, cyn gorffen o flaen y Llyfrgell Ganolog.

Ar ddiwedd yr orymdaith, bydd yr actores, Carys Eleri, yn cyflwyno cyfres o siaradwyr, yn cynnwys Adam Price, arweinydd Plaid Cymru; Ben Gwalchmai o’r grŵp Llafur dros Annibyniaeth; Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru; Sandra Clubb o’r Undod, a’r bardd Ali Goolyad.