Mae Ysgrifennydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn cyhuddo Llywodraeth Cymru a’r cwmnïau sy’n adeiladu ffordd osgoi Caernarfon, o “fandaliaeth ddiwylliannol” oherwydd y difrod sydd wedi’i achosi i safle hynafol ger y Felinheli.

Yn ôl Howard Huws, mae Ffynnon Fair yn safle sy’n cael ei gydnabod fel un sanctaidd ers dros 500 mlynedd.

Ond, o ganlyniad i’r gwaith torri coed a pharatoi llwybr y ffordd newydd, mae’r ffynnon bellach wedi’i gorchuddio â phridd, a’r dwr yn cael ei rwystro rhag llifo.

“Mae Ffynnon Fair yn ffynnon sanctaidd a gofnodwyd gyntaf ym 1458,” meddai Howard Huws.

“Pan adeiladwyd ffordd osgoi’r Felinheli ddiwedd y 1970au, gofalwyd y cai’r dŵr barhau i lifo’n ddirwystr.

“A phan gynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch ffordd osgoi Caernarfon, bu inni fynd gydag un o swyddogion Jones Bros Ruthin, yr adeiladwyr, a dangos iddo ymhle’n union yr oedd Ffynnon Fair, fel y gellid ei diogelu.

“Rŵan mae’r cyfan wedi’i orchuddio gan dunelli o bridd a cherrig: rhan fechan ond gwerthfawr o’n treftadaeth ysbrydol ni fel cenedl, ac o leiaf pum cant a hanner o flynyddoedd o hanes, wedi’u dileu mewn pum munud.

“Nid oherwydd twpdra nac anwybodaeth, oherwydd yr oedd yr awdurdodau’n gwybod yn iawn am y lle.”

Agwedd

Mae Howard Huws yn cymharu “difaterwch a dihidrwydd” yr adeiladwyr â’r agweddau a chwalodd gymuned Epynt ac a foddodd Capel Celyn.

“Mi fasa rhywun wedi disgwyl y byddai gan gyrff cadwraethol fel Cadw a’r Comisiwn Henebion rywbeth i’w ddweud am hyn,” meddai.

“Ond nid yw safleoedd fel Ffynnon Fair yn henebion, yn eu barn nhw, ac y maen nhw’n pledio nad oes ganddyn nhw ddigon o arian ar gyfer diogelu ffynhonnau sanctaidd.

“Mentrwn ddweud, pe bai dichon i Ffynnon Fair ddenu ymwelwyr, neu pe bai Edward I wedi codi llathen o wal o’i blaen, y byddai swyddogion Cadw a’r Comisiwn Henebion oll yno am y gorau ac yn fuan yn canfod yr adnoddau angenrheidiol i’w diogelu.

“Y gorau y gellir ei obeithio nawr yw y bydd modd datgloddio’r llanast, gosod pibell gadarn i ddwyn y llif allan o dan y rwbel, a cheisio adfer yr hyn fu gynt yn llecyn hyfryd… ond dydw i ddim yn obeithiol y bydd y Llywodraeth yn brysio i wneud hynny.”

Ffynnon Fair yng nghanol gwaith y ffordd osgoi ger Y Felinheli