Bydd Paul Davies yn erfyn ar bobol Cymru i beidio â “cholli ffydd” mewn datganoli, wrth iddo annerch cynhadledd ei blaid yn Llangollen heddiw (dydd Gwener, Mai 3).

Mae disgwyl i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig bwysleisio mai’r Blaid Lafur sydd wedi “methu” yng Nghymru, nid datganoli.

“Er bod gwasanaethau cyhoeddus yn cwympo’n ddarnau ledled Cymru, peidiwch â cholli ffydd yn datganoli,” meddai.

“Dyna fy mhrif neges dros y penwythnos hwn. Nid datganoli sydd wedi methu yng Nghymru. Llafur sydd wedi methu yng Nghymru.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll dros bobol Cymru trwy hybu atebolrwydd, grymuso pobol, hybu busnes, cefnogi cymunedau, a meithrin y genhedlaeth nesa’ o wleidyddion.”

Addo torri trethi

Pe bai’r Blaid Geidwadol yn ennill mwyafrif yn etholiadau’r Cynulliad yn 2021, a ffurfio llywodraeth, mi fydden nhw yn gostwng trethi pobol Cymru er mwyn “tyfu’r economi”, meddai wedyn.

“Rydyn ni’n credu mewn Cymru gref y tu fewn i’r Deyrnas Unedig, ac rydw i’n credu mai ein gwerthoedd ni yw gwerthoedd pobol Cymru.”

Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ar sut yn union i ostwng trethi dros y ddwy flynedd nesaf, medden nhw.

“Os edrychwch ni yn ôl drwy hanes,” meddai Paul Davies, “a gweld llywodraethau sydd wedi gostwng trethi, byddwch chi’n gweld eu bod nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth dyfu’r economi.

“A dyna beth yr ydw i eisiau ei wneud yma yng Nghymru.

“Oherwydd pan ddaw hi i’n heconomi ni yma yng Nghymru, rydan ni eto ar waelod y tabl cynghrair yma yn y Deyrnas Unedig, yn anffodus.

“A dyna beth yr ydw i eisiau newid, a dyna pam yr ydw i eisiau canolbwyntio ar yr economi a sicrhau ein bod ni yn tyfu’r economi, er mwyn ein bod ni yn gallu talu am ein gwasanaethau cyhoeddus ni.”