Mae bron i chwarter – dros 200 – o ganghennau banc ar draws Cymru wedi cau ers 2008 gan adael cymunedau a threfi ar draws y wlad heb rywle i godi pres a thalu sieciau i mewn.

Yn dilyn mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymchwiliad i edrych ar fynediad at wasanaethau bancio ar draws Cymru.

Bwriad y pwyllgor yw edrych ar effaith cau’r canghennau hyn ar gymunedau lleol.

“Rydym am edrych yn fanylach ar y sefyllfa ar draws y wlad ac annog y rhai y mae hyn yn effeithio arnynt i gymryd rhan yn ein hymchwiliad fel y cawn ddarlun clir o’r ffordd y mae bancio yng Nghymru wedi newid,” meddai Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Awr i’r banc agosaf

Mae cymuned Aberaeon wedi cael ei effeithio’n fawr gan gau’r canghennau.

“Yn fuan, fydd gan ein tref yr un gangen banc o gwbl ar ôl cau Natwest, HSBC ac yn fuan Barclays. Nid yw hyn yn ddigonol i unrhyw un,” meddai Angela Coles o Aberaron Stores.

“Mae cael dim banciau o gwbl yn golygu ein bod yn ei chael hi’n anodd os nad oes newid gennym ac i wneud ein bancio mae’n rhaid i ni deithio awr o daith i’n banc agosaf.

Fe fydd y pwyllgor yn holi am farn pobol yn y cymunedau hyn ar ben cymryd tystiolaeth gan dystion arbenigol sydd wedi cynnal ymchwil i’r broblem.

Dywed Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod cael gwared ar ganghennau banc yn “bryder gwirioneddol i fusnesau ar draws Cymru.”