Fe fydd dwy dafarn Gymraeg yng Ngwynedd yn mynd ben-ben mewn gêm bêl-droed yr wythnos nesaf er cof am eu cyn-landlord, Alun Williams.

Bwriad timau’r Fic yn Y Felinheli, a’r Crown yng Nghaernarfon yw cofio Alun Williams a fu farw o ganser yn 62 oed ar Awst 22, 2017.

Roedd ‘Al Wern’, i bobol Y Felinheli, neu ‘Al Crown’ i bobol Caernarfon, yn gymeriad poblogaidd. Ar ôl priodi â Sue yn 1978, fe fu’r ddau yn rhedeg tafarnau Y Goron a’r Goron Fach yn nhre’r Cofis o 1979, cyn symud i’r Fic yn Y Felinheli yn y 1990au.

Ddydd Gwener yr wythnos nesaf (Mai 10) fe fydd y ddwy dafarn, ffrindau, a theulu yn dod at ei gilydd yng nghae Seilo yn Y Felinheli, gyda’r nod o godi arian i Hosbis Dewi Sant, Bangor.

Cymdeithasu a phêl-droed

Fe fu Alun Williams yn gadeirydd Clwb Pêl-droed Caernarfon, ac yn un oedd wastad yn croesawu’r timau am fwyd a pheint ar ôl gêm tra’n rhedeg y Goron Fach a’r Fic.

“Mae’n gret cael rhywbeth wedi ei sortio rhwng y Fic a’r Goron Fach,” meddai Sue Williams. “Mae pawb yn edrych ymlaen ati, mae yna hen bobol yn dod â’u siorts allan!

“Mi wnaeth Al lot o waith gyda chlwb Caernarfon yn y dyddiau cynnar, pan oeddan ni yn Y Goron Fach. Roedd y timau yn dod yn ôl i’r Goron a ni oedd yn rhedeg y cantîn i fyny yn yr Ofal.

“Yr adeg honno, oedd ganddon ni Sunday Leagues hefyd, felly oedd yna bob tro rywbeth yn mynd ymlaen.”

Alun Williams oedd un o’r cyntaf i drefnu teithiau o Wynedd i weld tîm pêl-droed Cymru yn chwarae oddi cartref.