Bu’n rhaid i ymwelwyr a staff yng nghanolfan gelfyddydau Pontio yng nghanol dinas Bangor gael eu symud o’r adeilad heddiw (dydd Llun, Ebrill 29) yn dilyn tân.

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw toc cyn 12yp ar ôl derbyn adroddiad am dân y tu allan i lefel uchaf y ganolfan ble roedd gwaith adeiladu yn digwydd.

Roedd criwiau o Fangor, Porthaethwy ac Amlwch yn bresennol ar y safle, ac mae ymladdwyr ar hyn o bryd yn asesu’r difrod ar ôl diffodd y tân.

Dywed llefarydd ar ran Prifysgol Bangor, sy’n gyfrifol am redeg Pontio, y bydd y ganolfan ynghau am weddill y diwrnod oherwydd oglau mwg.

Ni chafodd neb eu hanafu yn ystod y digwyddiad.