Mae’r Aelod Cynulliad Llafur, Alun Davies, yn dweud bod angen i’w blaid wneud ei safbwynt ar ail refferendwm Brexit “yn glir”, neu golli cefnogaeth aelodau a chefnogwyr ar lawr gwlad.

Daw sylwadau’r aelod tros Flaenau Gwent ar ôl i Brif Weinidog Cymru wrthod cefnogi addewid i gynnal refferendwm arall ar Brexit fel rhan o faniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer etholiad Ewrop.

Dywedodd Mark Drakeford ar raglen Sunday Politics Cymru ddoe (dydd Sul, Ebrill 28) ei fod yn credu y dylai ail refferendwm “barhau i fod yn rhan o drafodaeth” yn y maniffesto.

Mae llawer o Aelodau Seneddol Llafur, ynghyd ag Aelodau Senedd Ewrop, wedi bod yn galw am ychwanegu’r addewid i faniffesto’r blaid.

Mae disgwyl i gynnwys y maniffesto gael ei bennu’r wythnos nesaf.

“Hollol siomedig”

Mae Alun Davies yn gryf o blaid ail refferendwm Brexit, ac ym mis Ionawr eleni fe gefnogodd gynnig gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i baratoi ar gyfer refferendwm arall.

Ond dywed yr Aelod Cynulliad ei fod yn “hollol siomedig” â sylwadau Mark Drakeford ddoe.

“Dw i ddim yn deall beth mae e eisiau gwneud,” meddai wrth golwg360. “Mae wedi gofyn i ni, fel aelodau Llafur, i gefnogi polisi dyw e ddim yn fodlon cefnogi ei hun, a dyw hynny ddim yn dderbyniol…

“Mae’n rhaid [i’r addewid gael ei ychwanegu]” meddai wedyn am faniffesto ei blaid.

“Dw i’n gweld bod lot fawr o aelodau a chefnogwyr y Blaid ddim yn fodlon ymgyrchu, a lot fawr o bleidleiswyr ddim yn mynd i gefnogi’r blaid [os na fydd yno].

“Allwn ni ddim rhoi’r bai am hynny ar unrhyw un arall ond y Blaid Lafur os bydd hynny’n digwydd.”

Ail refferendwm – a oes galw amdano?

Er mai Blaenau Gwent oedd yr etholaeth fwyaf brwd yng Nghymru tros adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, gyda 62% o blaid Brexit, dywed Alun Davies ei bod hi’n “ddigon clir” bod pleidleiswyr eisiau cynnig arall arni.

“Mae pobol dw i’n siarad â nhw eisiau ail refferendwm, a dw i ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth o unrhyw le bod hynny ddim yn wir,” meddai.

“[Mae angen ail refferendwm] oherwydd bod y cynigion sydd wedi dod… ddim wedi dod yn agos i beth oedd wedi cael ei addo ac wedi cael ei gynnig yn y refferendwm tair blynedd yn ôl.

“Dw i ddim yn credu, os ydych chi’n credu mewn democratiaeth, eich bod chi’n gallu defnyddio’r refferendwm yn 2016 fel mandad ar gyfer yr hyn sydd o’n blaenau ni ar hyn o bryd.”