Fe fydd dyn 49 oed yn mynd gerbron llys heddiw (dydd Llun, Ebrill 29) ar gyhuddiad o lofruddio dynes, 22, o Abertawe.

Cafwyd hyd i gorff Sammy-Lee Lodwig mewn tŷ yn ardal Carlton Terrace yn y ddinas tua 3yb ar Ebrill 23.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Roedd Jason Shaun Farrell wedi cael ei arestio ar yr un diwrnod a chafodd ei gyhuddo ddoe (dydd Sul, Ebrill 28) o lofruddio Sammy-Lee Lodwig.

Mae disgwyl iddo fynd gerbron ynadon Abertawe heddiw.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Carlton Terrace a Stryd Mansel yn y ddinas rhwng 4 o’r gloch prynhawn dydd Llun, Ebrill 22 a 4 o’r gloch bore Mawrth, Ebrill 23.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar hyn o bryd.