Mae Prifysgol Bangor yn dweud eu bod yn gobeithio datblygu ar eu gwaith ym maes technoleg llais yn y Gymraeg ar ôl helpu cyn-aelod o staff i gael ei lais yn ôl yn dilyn triniaeth am ganser ddwy flynedd yn ôl.

Fe wnaeth arbenigwyr yng Nghanolfan Bedwyr y brifysgol, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ddatblygu technoleg er mwyn ail-greu llais John Wyn Jones o Fiwmares.

Mae’r dechnoleg fel arfer yn cael ei chreu cyn bod rhywun yn colli ei lais, ond doedd hi ddim yn bosibl y tro hwn, felly aethon nhw ati gan ddefnyddio corpws o eiriau a hen glipiau sain o’i lais ei hun o’r gorffennol.

Bydd ei daith yn destun rhaglen ddogfen ‘Achub Llais John’ yng nghyfres DRYCH ar S4C heno (nos Sul, Ebrill 28).

Pwysigrwydd y llais

Ac yntau’n arfer bod yn llefarydd ar ran y brifysgol ac yn aelod selog o gynulleidfaoedd y Gymanfa Ganu leol, fe fu ei lais yn bwysig i John Wyn Jones erioed.

Cysylltodd Nan, ei wraig, â’r brifysgol ar ôl clywed eu bod nhw’n datblygu technoleg llais newydd yn ei hen weithle.

Mae rhaglen ‘Lleisiwr’ yn creu llais go iawn gan ddefnyddio corff o eirfa sy’n benodol i iaith y ‘siaradwr’.

Cafodd y rhaglen ei datblygu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i helpu cleifion sy’n dioddef o salwch neu afiechydon sy’n effeithio’r llais.

Gall cleifion deipio negeseuon ar gyfrifiadur neu dabled yn eu hiaith eu hunain a chwarae clip sain o’r geiriau yn eu llais eu hunain.

“Roedden ni mor falch i allu helpu John Wyn a chleifion eraill sydd wedi colli’r gallu i siarad,” meddai Delyth Prys, Pennaeth Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor.

“Pan gysylltodd Nan gyda ni gyntaf, roedden ni’n meddwl ei bod hi’n rhy hwyr i helpu John, ac mae’n llawer gwell medru recordio claf cyn iddyn nhw golli’u llais.

“Ond gyda help hen glipiau ac aelod arall o’r teulu, fe wnaethon ni lwyddo i greu llais sydd yn swnio’n eithaf tebyg i John. Rydyn ni’n gobeithio gwneud mwy o ymchwil yn y maes yma i wella’r dechnoleg a helpu mwy ar gleifion Cymraeg eu hiaith.”