Mae Gŵyl Amrywiaeth wedi’i chynnal yng nghanol dinas Abertawe heddiw fel modd o ymateb i rali asgell dde eithafol oedd yn cael ei chynnal ar yr un pryd.

Mae honiadau bod y rali asgell dde yn hybu Brexit mewn modd agored ond bod iddi is-lais Islamoffobaidd.

Cafodd Anne Marie Waters, arweinydd mudiad For Britain Movement, wahoddiad i siarad yn y rali.

Mae hi wedi cael galw’n “fileinig” ar ôl iddi alw am allforio Mwslimiaid a chau holl fosgiau gwledydd Prydain, ac mae ei chyd-aelodau’n neo-Natsïaid ac yn aelodau’r National Action, criw sydd wedi’i wahardd.

Fe ddaeth i’r amlwg yr wythnos ddiwethaf fod y criw, gan gynnwys Stephen Rees, trefnydd y rali yn Abertawe, yn hybu ffurf wyrdroedig ar “gynllun Kalergi” wrth geisio dileu pobol nad ydyn nhw’n bobol â chroen gwyn. Maen nhw’n mynnu bod Mwslimiaid am eu gorchfygu.

Daeth Stephen Rees i amlygrwydd yn y ddinas y llynedd pan wahoddodd e Anne Marie Waters i gyfarfod cyfrinachol, ac mae’n adnabyddus am ddosbarthu taflenni’n galw tri aelod seneddol Llafur lleol yn “fradychwyr”, oedd yn adlais o eiriau Thomas Mair, y dyn oedd wedi llofruddio Jo Cox.

‘Dim croeso’

Mae trefnwyr y digwyddiad sy’n hybu amrywiaeth yn dweud nad oes croeso i ragfarnau eithafol yn Abertawe.

“Mae angen i ni anfon neges glir i bobol cul eu barn fel hyn yn Abertawe nac yn unman arall yng Nghymru,” meddai neges ar eu tudalen Facebook.

“A hefyd ein bod ni’n falch o’r ffaith fod Abertawe’n ddinas amlddiwylliannol, amrywiol a bod Cymru’n genedl amlddiwylliannol, amrywiol.”