Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, yn galw am sicrwydd y bydd y byd amaeth yng Nghymru’n cael dweud ei ddweud ar gyllid ffermio ar ôl Brexit.

Daeth yr alwad wrth iddo gyflwyno tystiolaeth i Adolygiad Bew, sy’n edrych ar sut y bydd y diwydiant yn cael ei ariannu pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n galw am sefydlu corff newydd i adolygu gwariant, a fyddai’n rhoi llais cyfartal i bob un o wledydd Prydain mewn trafodaethau yn y dyfodol.

Mae’r Polisi Amaeth Cyffredin yn cael ei benderfynu ar lefel Ewropeaidd ar hyn o bryd, ac mae llywodraethau Prydain a Chymru yn gyfrifol am weinyddu’r cyllid.

Ond yn sgil Brexit, fe fydd angen penderfynu sut mae’r drefn yn cael ei haddasu, gyda Chymru ar y blaen i’r gwledydd eraill ym myd amaeth o ran maint y diwydiant a chyfran y tir ffermio o’i gymharu â’r boblogaeth.

Mae Ben Lake yn galw am sefydlu asiantaeth ryng-lywodraethol er mwyn sicrhau bod Cymru’n cael tegwch ariannol.

“Un o’r sectorau hanfodol”

“Rwy’n gobeithio mai Adolygiad Bew yw’r cam cyntaf tuag at gynnig synhwyrol ar gyfer cyllid amaethyddiaeth os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Ben Lake.

“Drwy gydol y broses Brexit, mae Cymru wedi cael ei hanwybyddu.

“Yr unig amser y clywn am Gymru yw pan fo Llywodraeth y DU eisiau tynnu pwerau nôl neu dorri addewidion am gyllid. 

“Dyna pam bod angen clo cyfreithiol fydd yn sicrhau bod gennym lais ar ariannu amaeth ôl-Brexit.

“Dyma un o’r sectorau hanfodol, ac mae’n rhaid i Gymru gael llais cyfartal wrth drafod modelau cyllido i’r dyfodol.  

“Er mwyn i’r fframweithiau yma fod yn gynaladwy, mae’n rhaid i bedair gwlad y DU ddod i gytundeb ar y cyd. 

“Ar hyn o bryd nid oes corff pwrpasol i oruchwylio polisiau ar draws gwledydd y DU.

“Does yna chwaith ddim mecanwaith ar gyfer datrys anghydfod sy’n ennyn ffydd y bedair gweinyddiaeth a’r pedwar diwydiant.

“Addawyd na fyddai ffermwyr Cymru yn colli ceiniog a byddaf yn parhau i ymladd ar eu rhan yn San Steffan nes bydd cadarnhad cyfreithiol o hynny.”