Fe fydd y Gymraeg a’r Wyddeleg i’w clywed drwy gân a chelf yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon fory (Dydd Sadwrn, Ebrill 27).

Pontio diwylliannau Cymru ac Iwerddon yw bwriad prosiect ‘Prosiect/Tionsnamh: Bendigeidfran’ – fel mae’r cawr ei hun yn ei wneud yn chwedl Branwen y Mabinogi wrth osod ei hun fel pont i gysylltu’r ddwy wlad.

Yn ymgynnull yng Nghaernarfon yfory bydd llu o siaradwyr, beirdd, digrifwyr, cerddorion ac artistiaid Cymraeg a Gwyddeleg.

“Dw i’n gweld bo’ ni ddim yn gwybod ddim byd am ein gilydd,” meddai Bethan Ruth, un o drefnwyr y diwrnod wrth golwg360, sydd wedi treulio llawer o amser yn Iwerddon.

“Mae yna gymaint i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd, mae yna lot o bethau yn y sin iaith Wyddeleg sy’n digwydd yn y sin iaith Gymraeg hefyd.”

 “Rhannu’r un ymdeimlad”

“Mae’n hawdd iawn yng Nghymru i ni deimlo fel ein bod yn styc ac yn cael ein boddi mewn diwylliant anglophone,” meddai Bethan Ruth.

“Dw i’n meddwl bod y Gwyddelod yn gallu rhannu’r un ymdeimlad a ni, mae’n hawdd iawn teimlo fel estron pan ti’n dibynnu ar ddiwylliant Ewrop a Phrydeinig.”

Y bwriad yfory, meddai Bethan Ruth, yw “i ddangos i’n gilydd ein bod ni’n bodoli, ac i ddangos i ein gilydd bo’ ni efo syniadau tebyg, ac i ddysgu o’n gilydd.”

“Mae o i gyd yn ychydig o arbrawf, fe fydden ni wedyn yn mynd draw i Iwerddon rhywbryd –  ond gawn ni weld sut mae fory yn mynd.”

“Hyder mewn hunaniaeth”

Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio mae Hywel Pitts a Gaelgáirí , Seaghan Mac An TSionnaigh a Rhys Trimble, a barddoniaeth gan Gywion Cranogwen a Reic.

Gyda’r nos bydd tri grŵp rap a hip-hop yn perfformio – 3 Hŵr Doeth o Gaernarfon, Vigilanti o Derry a’r grŵp Kneecap o Belffast.

Kneecap yw un o’r grwpiau cyfoes mwyaf poblogaidd erioed o Iwerddon, ac mae disgwyl i lawer o Wyddelod wneud y daith dros y môr i’w gweld yn perfformio yng Ngwynedd.

“Roeddan ni eisiau i ddiwrnod grymuso pobol a chael pobol i ddangos eu hyder yn eu hunaniaeth ac yn eu hiaith,” meddai Bethan Ruth.

“Dw i’n meddwl bod hip hop efo traddodiad ble mae pobol yn dweud eu dweud.”

Fe fydd sesiwn y dydd yn dechrau am 11 y bore ac yn gorffen am bump yr hwyr, cyn i’r rapwyr gamu i’r llwyfan am wyth y nos.