Ni fydd yr un siop Debenhams yng Nghymru yn gorfod cau’r flwyddyn nesaf.
Ond mae’r cwmni wedi cyhoeddi bod tua 1,200 o swyddi yn y fantol wrth i Debenhams ailstrwythuro’r busnes yn sgil trafferthion ariannol.
Bydd 22 o siopau yn gorfod cau yn Lloegr a’r Alban.
Cafodd y cwmni ei roi yn nwylo dyledwyr ddechrau’r mis, ac mae’n bosib y bydd enwau rhagor o ganghennau yn cael eu cyhoeddi yn dilyn trafodaethau â thirfeddianwyr.
Yn ôl adroddiadau, fe allen nhw orfod cau hyd at 50 o siopau yng ngwledydd Prydain.
‘Newyddion da… am nawr’
Un ddinas yng Nghymru lle bu pryder ynghylch colli’r gangen leol o Debenhams oedd Bangor.
Yn ôl un o gynghorwyr sir y ddinas, Steve Collings, mae’r cyhoeddiad heddiw yn “newyddion da” i’r Stryd Fawr yno.
“Rydan ni wedi llwyddo i osgoi ergyd ddifrifol,” meddai wrth golwg360.
“Mae nifer yr unedau gwag ar Stryd Fawr Bangor… wedi gostwng 5% yn y pum mlynedd diwethaf. Er nad ydyn ni’n ddiogel, mae pethau’n mynd yn y cyfeiriad cywir.
“Mae’n newyddion da na fyddwn ni’n colli siop fawr [fel Debenhams]…
“Dw i’n meddwl ein bod ni’n ddiogel, am nawr.”