Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ger Caerdydd, yn un o bump amgueddfa sydd ar restr gwobr fawreddog Brydeinig.
Pob blwyddyn mae’r Gronfa Gelf yn dewis ‘Amgueddfa’r Flwyddyn’ i ddathlu llwyddiant rhagorol ym maes amgueddfeydd ac orielau.
Fe fydd Sain Ffagan yn cystadlu gydag amgueddfeydd HMS Caroline ym Melffast, Nottingham Contemporary, Pitt Rivers yn Rhydychen a V&A Dundee am wobr 2019.
Mewn seremoni yn y Science Museum yn Llundain ar Orffennaf 3 fe fydd yr enillydd yn derbyn gwobr gwerth £100,000 gan banel o feirniaid.
“Blwyddyn bwysig”
“Rydyn ni wrth ein bodd bod Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar restr fer gwobr Amgueddfa’r Flwyddyn 2019 y Gronfa Gelf,” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru.
“Roedd 2018 yn flwyddyn bwysig yn hanes yr Amgueddfa a braint fawr oedd creu’r Sain Ffagan newydd gyda chymorth ymarferol a haelioni cynifer o Gymru a thu hwnt,” ychwanegodd.
Fe gafodd £30 miliwn ei wario ar ailddatblygu Sain Ffagan yn ddiweddar.
Yn ystod y cyfnod hwn fe lwyddodd yr amgueddfa i aros ar agor gan groesawu tair miliwn o ymwelwyr a bu yn ymgysylltu gyda 720,000 o bobol drwy raglen gyhoeddus i greu hanes ‘gyda’ phobol Cymru.
“Democratiaeth ddiwylliannol”
“Ein nod yw bod Sain Ffagan yn dod yn ganolfan o ddemocratiaeth ddiwylliannol, gyda meddwl beirniadol ac arfer sgiliau yn elfen greiddiol,” meddai David Anderson.
“Mae’r orielau newydd hefyd bellach yn rhoi adlewyrchiad llawer mwy cynhwysfawr o hanes dyn yng Nghymru, o’r helwyr Neanderthal cyntaf i’n cymuned amlddiwylliannol gyfoes.”
“Diolch i gyfraniadau chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, llwyddwyd i sicrhau help 3,000 a mwy o wirfoddolwyr a 200 sefydliad cymunedol, elusennau stryd a grwpiau lleol o bob cwr o Gymru i gwblhau’r gwaith.”