Mae ymgynghoriad yn dechrau heddiw (Dydd Gwener, Ebrill 26) i weld a oes modd taclo’r argyfwng tai mewn cymunedau lleol drwy ddefnyddio adeiladau gwag.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad Cenedlaethol sydd yn yn cynnal yr ymgynghoriad a bydd arolwg ar wefan y Cynulliad yn caniatáu’r cyhoedd i gyfrannu ati.

Yn ôl amcangyfrif diweddar, mae tua 27,000 o enghreifftiau o adeiladau preifat sydd yn wag ers cyfnod hir, a 1,400 o eiddo gwag sydd gan y sector tai cymdeithasol.

Mae galw wedi bod ers peth amser am ragor o dai fforddiadwy a chynaliadwy o fewn cymunedau yng Nghymru.

“Mater brys”

“Mae’r prinder tai fforddiadwy yn fater brys i lawer o gymunedau erbyn hyn,” meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

“Yn y cyfamser, mae miloedd o adeiladau preifat a chyhoeddus yn wag, a chyflwr nifer ohonyn nhw’n dirywio’n ddifrifol.

“Rydym ni am ddarganfod gwir effaith adeiladau gwag ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru, ac am ddeall y problemau eraill y maen nhw’n gallu eu hachosi i gymunedau.”

Bwriad y pwyllgor drwy ymgynghoriad yw dysgu mwy am yr heriau sy’n rhwystro awdurdodau lleol rhag mynd i’r afael a’r broblem.

Yn ôl John Griffiths, mae enghreifftiau da lle mae adeiladau gwag wedi cael eu trawsnewid.

“Rydym am glywed am enghreifftiau llwyddiannus lle mae adeiladau gwag wedi cael eu troi’n gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy i bobl leol, i weld a oes modd efelychu’r llwyddiannau hynny mewn ardaloedd eraill,” meddai.