Mae Cynghorydd o Bowys yn pryderu bod ewyllys pobol Cymru yn cael ei anwybyddu gan gyrff dad-ddofi.

Nod y cyrff yma yw addasu cefn gwlad trwy blannu coed a chyflwyno creaduriaid gwyllt, a dan brosiect y ‘Cambrian Wildwood’ mi allai 7,500 erw gael ei thrawsnewid yng Nghymru.

 hithau’n cynrychioli ardal amaethyddol a gwledig, mae Myfanwy Alexander yn pryderu bod y prosiectau’n cael eu cyflwyno heb fewnbwn pobol leol.

“Mae elusennau mawr o bell efo digon o bres a grym i brynu’r tir,” meddai wrth golwg360. “Ac os newidian nhw’r ffordd maen nhw’n trin y tir, bydd hynny’n effeithio ar y tirfeddianwyr o’u cwmpas.

“… Dw i ddim yn ei erbyn. Dw i’n berson eithaf gwyrdd. Ond mae’r pellter rhwng y bobol sy’n creu’r cynlluniau yma, a’r sustem ddemocrataidd, yn peri gofid i mi.

“… Os dyma yw dyfodol Cymru, gawn ni gael sgwrs am hynna plîs?”

Cyn iddyn nhw fwrw ati â’i gwaith, hoffai’r Cynghorydd weld y cyrff yn ennill cefnogaeth y cyhoedd trwy ddulliau democrataidd.

“Mi allan nhw ddod yn rhan o agenda pleidiau eraill,” meddai. “Does dim rhaid iddyn nhw greu plaid eu hunain. Er enghraifft mi allai rewilding fod yn rhan o agenda’r Blaid Werdd.

“Ar hyn o bryd, dw i ddim yn licio’r syniad bod pobol o bell yn trafod ein hardal a ddim yn trafod efo ni.”

English Colonialism

Mewn neges ar Twitter mae Cynghorydd ward Banwy wedi galw ymdrechion ail-wylltio yn “English Colonialism”, ac mae’n amddiffyn y disgrifiad yma.

“Os ydi pobol Loegr yn prynu tir yng Nghymru, ac wedyn eisiau newid natur yr ardal yn gyfan gwbl, pa ffordd arall allwch chi ddisgrifio hyn?” meddai.