Mae ymgyrchwyr tros yr amgylchedd wedi “gorfod” gweithredu mewn modd “hollol bryfoclyd”, yn ôl aelod Extinction Rebellion o Gymru.

Dros y dyddiau diwethaf mae aelodau o’r grŵp wedi bod yn gwrthdystio mewn dinasoedd ledled gwledydd Prydain – gan gynnwys Llundain a Chaerdydd.

Ac yn ystod y protestiadau yma mae ymgyrchwyr wedi achosi tipyn o helynt, gan rwystro ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Eu nod yw tynnu sylw at fygythiad newid hinsawdd, ac yn ôl Staci Sylvan mae’r grŵp wedi cael eu gorfodi i weithredu yn y fath modd.

“Dw i wedi bod yn gweithio ym meysydd yr amgylchedd a gwyddorau’r blaned am 20 blynedd,” meddai Staci Sylvan wrth golwg360.

“[Ac ers dechrau protestio] mae Radio Wales, Channel 4 a golwg360 wedi cysylltu â mi. Dyw hynna erioed wedi digwydd o’r blaen. Dw i wastad wedi bod yn agored yn fy nghefnogaeth i’r blaned.

“Dyma’r unig dro mae pobol wedi talu sylw,” meddai. “Rydyn ni wedi gorfod gwneud rhywbeth hollol bryfoclyd.

“Mae Brexit yn cyfrannu at hyn. Mae pawb yn canolbwyntio ar Brexit. Ond does neb yn siarad am y broblem anferthol yma – the eliphant in the room.”

XR De Orllewin Cymru

Mae Staci Sylvan yn byw yn Llangyndeyrn, ger Caerfyrddin, ac mae hi’n aelod o gangen XR De Orllewin Cymru.

Mae gan y gangen 1,000 aelod, a pum is-gangen sef: XR Abertawe, XR Caerfyrddin (sy’n cynnwys Llandeilo), XR Llambed, XR Aberteifi ac XR Sir Benfro.

Ers ei sefydlu tros hydref y llynedd, mae’r aelodau wedi gwrthdystio yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Llundain.

Aeth 60 ohonyn nhw i’r brotest ddiweddaraf yn Llundain, a chafodd tua 40 o’r rheiny eu harestio. Roedd Staci Sylvan ymhlith y criw, ond gafodd hi ddim ei harestio.

Heddychlon

Yn ystod y gwrthdystio yn Llundain fe ludiodd sawl protestiwr o Gymru ei hun i’r llawr, yn ôl yr ymgyrchydd. Ond mi wnaethon nhw ymatal rhag troi’n dreisgar – a dyna yw un o fanteision y grŵp, meddai.

“Mae [protestio heddychlon] wrth wraidd hyn i gyd,” meddai. “Rydyn ni’n heddychlon a dydyn ni ddim yn dreisgar.

“Mae hynny’n gwneud i lawer o bobol deimlo ein bod yn groesawgar. Dydyn ni ddim yn gweiddi ar bobol eraill, nac yn eu beio nhw am bethau. Dydyn ni ddim yn ymosodol tuag yr heddlu…

“Mae wedi bod yn heddychlon yng Nghymru,” meddai wedyn, “a dw i’n credu bydd hyn yn parhau’n heddychlon. Dyna yw’r syniad tu ôl hyn.”