Fe fydd disgyblion a chyn-ddisgyblion Gwasanaeth Cerdd Ceredigion yn cynnal ‘cyngerdd stryd’ yn Aberystwyth yr wythnos hon er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r bygythiad i wersi cerddoriaeth y sir.

Daw’r digwyddiad yn sgil adroddiadau bod cyfarfodydd wedi eu trefnu ar gyfer dechrau mis Mai er mwyn cychwyn ymgynghoriad ar gyflwyno toriadau i’r Gwasanaeth Cerdd.

Mae Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion hefyd wedi cyflwyno deiseb sy’n cynnwys dros 3,000 o lofnodion i Gyngor Ceredigion yn galw arnyn nhw i ailystyried y toriadau.

Mae disgwyl i’r ddeiseb gael ei thrafod gan Gabinet Cyngor Ceredigion mewn cyfarfod ar ddiwedd mis Ebrill.

“Dangos cefnogaeth”

Bydd y ‘gyngerdd stryd’, a fydd yn cynnwys cerddorion o bob oed, yn cael ei chynnal am rai oriau ar Sgwâr Owain Glyndŵr, Aberystwyth, yfory (dydd Gwener, Ebrill 26).

“Mae gymaint o’r cannoedd o ddisgyblion sy’n derbyn gwersi cerddoriaeth yn y sir yn benderfynol o ddangos cefnogaeth i’w hathrawon,” meddai Angharad Fychan, Ysgrifennydd Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion.

“Aeth disgyblion ati i drefnu cyngerdd yn swyddfeydd y Cyngor yn gynharach yn y mis, ond nawr maen nhw’n canolbwyntio ar ennill cefnogaeth y cyhoeddi cyn i benderfyniadau allweddol gael eu gwneud yn yr wythnosau nesaf.

“Bydd y cyngerdd stryd rhad ac am ddim hwn yn wledd i’r cyhoedd, ond hefyd yn rhoi neges ddifrifol.

“Mae Gwasanaeth Cerdd Ceredigion wedi cyflawni gwaith gwych yn datblygu talentau lleol dros y blynyddoedd, ond rhaid i’r cyfleon hyn fod ar gael i’r cenedlaethau nesaf.”