Mae cynghorydd o Rydaman yn gobeithio sbarduno rhagor o bobol i droi at yr heddlu yn dilyn achosion o sarhau yr iaith Gymraeg.

Mae Llio Davies yn dweud bod y dref yn “Gymreigaidd iawn” a bod yr iaith “i’w chlywed yn fyw ar y stryd bob dydd”, ond tua phedwar mis yn ôl, mae’n dweud ei bod wedi profi achos o sarhad mewn siop leol, wrth iddi geisio sefyll dros y Gymraeg.

Dyw hi ddim am ddatgelu enw’r siop, ond mae’n egluro mae perchennog y siop wnaeth hwyl am ben y Gymraeg.

Ar ôl iddi fynd at yr heddlu, mae’n dweud ei bod yn teimlo’n “bositif iawn”, ac mae’n gobeithio mi wneith ei hachos hithau ysbrydoli sawl un arall.

“Beth oeddwn i eisiau gwneud oedd rhoi’r neges allan i bawb bod hawl [gennym ni gwyno],” meddai wrth golwg360.

“Roeddwn i eisiau i bobol wybod bod o ddim yn iawn, a fy mod i wedi cael llwyddiant trwy fynd at yr heddlu. Dw i’n teimlo bod y mater wedi cael ei drin yn dda.

“Wnaeth o wneud i mi deimlo’n bositif iawn. Dw i eisiau i bobol deimlo eu bod yn medru mynd at yr heddlu. Maen nhw’n gallu delio â fo.”

Beth ddigwyddodd?

Yn ôl Llio Davies, mae un o weithwyr y siop yn dysgu Cymraeg, ac mae hi “wrth ei bodd” yn gwneud hynny.

“Dywedais i wrth y perchennog, ei fod yn braf gweld y ferch yn mwynhau [dysgu],” meddai. “Ac aeth o off gan ddweud: ‘Am wast o amser. Pam bod pobol yn gwneud hynny?’”

Dywedodd y perchennog ganddo’r “hawl” i leisio’r farn yna, meddai’r cynghorydd, ac mi ymatebodd hithau i’w sylwadau.

“Dywedais wrtho ei fod yn gwneud i bobol … deimlo’n annifyr iawn, ac i deimlo fel eu bod yn cael eu bwlio a’u pardduo,” meddai.

“A dywedais ei fod yn anghywir, a bod [ei sylwadau] yn dangos ei fod yn anwybodus iawn o’r ffaith ein bod yn byw mewn gwlad ddwyieithog.”

Ymateb yr heddlu

Mae Llio Davies yn dweud bod yr heddlu bod yn “wych” wrth ymateb â’i chŵyn.

“Wnaethon nhw roi gwers iddo fod y pethau yma ddim yn iawn, ddim yn gymwys, yn erbyn y gyfraith, a’i fod yn lwcus ei fod [ond yn cael rhybudd],” meddai.

Dyw Llio Davies ddim wedi dychwelyd i’r siop, nac wedi siarad â’r perchennog chwaith, ers hynny.