Bydd gŵyl newydd yn cael ei chynnal yng nghefn gwlad Ceredigion yr haf hwn, gyda’r nod o “hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod” o fewn y sir.

Bydd Gŵyl Gwenlli yn cael ei chynnal ar gae fferm yn ardal Synod Inn ar ddechrau mis Gorffennaf.

Yn ôl y trefnwyr, fe gawson nhw eu sbarduno i sefydlu’r ŵyl yn dilyn y cyhoeddiad ddechrau’r flwyddyn na fydd Gŵyl Nôl a Mlân yn Llangrannog yn cael ei chynnal eleni.

Er nad yw’r arlwy wedi ei gadarnhau eto, bydd Gŵyl Gwenlli yn cynnig adloniant a fydd yn cynnwys “artistiaid a bandiau Cymreig”, yn ogystal â stondinau gan “rai o’r darparwyr bwyd stryd gorau yng Nghymru”.

Mae yna fwriad hefyd i gynnig gostyngiad yn y pris mynediad i aelodau o fudiadau ieuenctid fel y Clybiau Ffermwyr Ifanc, mewn ymgais i “ddenu pobol ifanc leol”, meddai’r trefnwyr.

“Gŵyl yng nghefn gwlad Ceredigion”

Roedd cárnifal lleol o’r enw Gŵyl Gwenlli yn arfer cael ei gynnal yng nghyffiniau Synod Inn rai blynyddoedd yn ôl.

Ond yn ôl Bryan Gareth Davies, un o drefnwyr yr ŵyl ar ei newydd wedd, y gobaith yw cynnal digwyddiad mwy o faint eleni “fel arbrawf”.

“Mae’n rhywbeth, yn bennaf, i hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod yng Ngheredigion,” meddai’r ffermwr a’r cynghorydd sir wrth golwg360.

“Mae’n rhywbeth sy’n mynd i ddenu trawstoriad eang o bobol, boed yn bobol ifanc neu’n henach.

“Y gobaith yw ein bod ni’n mynd i ddenu bandiau lleol – bandiau sy’n mynd i ailffurfio a hefyd bandiau sydd mas ar y sin roc Gymraeg yn barod.”

Bydd Gŵyl Gwenlli yn cael ei chynnal ar Orffennaf 5 a 6.