Mae dyn 38 oed a dynes 28 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o glwyfo bwriadol yn Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 7.50 fore heddiw (dydd Mercher, Ebrill 24) yn dilyn adroddiadau o ymosodiad yng nghanol y ddinas.

Glaniodd yr ambiwlans awyr, a chafodd dyn ei gludo mewn ambiwlans i’r ysbyty ag anafiadau.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.

Dinas dreisgar

Daw’r digwyddiad diweddaraf ddiwrnod yn unig ar ôl i ddynes 22 oed gael ei llofruddio yn ardal Bryn Siriol (Mount Pleasant) y ddinas.

Mae dyn 49 oed wedi’i arestio mewn perthynas â’r digwyddiad hwnnw.