Mae anturiaethwr sy’n hanu o ardal Caernarfon wedi sôn am ei brofiad o redeg 250Km dros gyfnod o bum diwrnod ynghanol gwres llethol Sri Lanca.

Mae Huw Jack Brassington, sydd bellach yn byw yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr, newydd ddychwelyd i wledydd Prydain ar ôl ymgymryd â’r marathon “andros o anodd” ar draws gwlad yn Sri Lanca yr wythnos ddiwethaf.

Roedd ras ‘Ultra X Sri Lanka’ yn cynnwys rhedeg cyfartaledd o 50km y dydd ar draws Parc Cenedlaethol Udawalawa, a hynny mewn gwres a oedd yn cyrraedd hyd at 45⁰C, meddai.

“Be oedd yn broblem oedd, oherwydd ein bod ni’n mynd trwy’r jyngl a mynd trwy lefydd eithaf budur, roedd yna infections…” meddai Huw Jack Brassington, sydd hefyd yn dweud na wnaeth “o leiaf hanner” y mwy na 30 o redwr a gychwynnodd y ras lwyddo i gyrraedd y llinell terfyn.

“MI wnes i gael infection yn hwyr i fewn i’r ras, a dim ond sylwi arno fo ar y pumed diwrnod.

“Os oeddan nhw’n sylwi bod gen ti un, roeddan nhw’n stopio chdi rhag rhedeg.”

Ymosodiadau Sri Lanca

A’r ras wedi dod i ben ar ddydd Gwener y Groglith (Ebrill 19), roedd Huw Jack Brassington ym mhrifddinas y wlad, Colombo, pan gafodd dros 300 o bobol eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau ar Sul y Pasg.

“Mae’n uffernol. Pan oedden ni yna, doedden ni ddim wedi sylwi beth oedd wedi digwydd yn iawn…” meddai.

“Pryd oedden ni’n mynd i’r maes awyr, roedd yna road blocks. Roedden ni i fod i ddal plane a gorfod rhedeg trwy’r traffig a gadael y tuk tuk a rhoi ein bagiau i lawr.

“Digwydd bod, fe wnaethon ni ffeindio allan wedyn… yn y road block yna pan oeddan ni’n ciwio… roeddan nhw’n diffiwsio pipe bomb chwe troedfedd.

“Mae’n rhywbeth dwyt ti ddim isho meddwl gormod amdano fo.”

Dyma glip o Huw Jack Brassington yn talu teyrnged i bobol Sri Lanca…