Mae ymgyrchwyr wedi mynegi eu siom ar ôl i arwydd ‘Cofiwch Dryweryn’ ymddangos ar gofeb ym Mhenrhyn Gŵyr.

Ers yr achosion diweddaraf o ddifrod i’r wal hanesyddol ger Llanrhystud yng Ngheredigion, mae fersiynau o’r arwydd enwog wedi ymddangos mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Ond mae rhai unigolion yn rhybuddio y gallai’r ymgyrch gael ei danseilio, ar ôl i arwydd tebyg – sydd wedi ei gamsillafu – gael ei baentio ar garreg goffa i Owen Jones o Gymdeithas Gŵyr yn ardal Porth Einon.

“Dyw e ddim yn iawn i fandaleiddio cofebion eraill er mwyn hyrwyddo’r neges,” meddai Rachel Davey Carter mewn neges sy’n cynnwys y llun ar Facebook.

“Dylai’r person a wnaeth hyn, er gyda bwriad da, dynnu’r arwydd ymaith gan ystyried y teuluoedd.

“Dw i’n deall y gallwn ni weld pethau fel hyn yn digwydd er mwyn ceisio dwyn anfri ar yr ymgyrch.”