Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Nigel Evans, yn galw ar Theresa May i ymddiswyddo fel Prif Weinidog “heddiw” (dydd Mawrth. Ebrill 23).

Yn ôl y gwleidydd o Abertawe, sy’n cynrychioli etholaeth Ribble Valley yng ngogledd-orllewin Lloegr, pe bai Theresa May yn cyhoeddi heddiw ei bod hi am gamu o’r neilltu, fe fyddai hynny’n rhoi digon o amser i ddewis olynydd iddi.

Mae’n dweud bod gwyliau’r Pasg wedi rhoi’r cyfle iddo feddwl ynglŷn â’r “problemau difrifol” sy’n bodoli ynghylch Brexit, a bod angen i’r Prif Weinidog fynd “cyn gynted â phosib”.

Daw anfodlonrwydd un o ysgrifenyddion Pwyllgor 1922 ar ôl i tua 70 o gadeiryddion Cymdeithasau’r Ceidwadwyr fynegi eu diffyg hyder yn Theresa May.

Ychwanega Nigel Evans nad oes modd achub sefyllfa Theresa May bellach, yn enwedig wrth i 40% o gynghorwyr Ceidwadol ystyried rhoi eu cefnogaeth i Blaid Brexit Nigel Farage yn yr etholiadau Ewropeaidd.

“Mae angen arweiniad newydd ar y Blaid Geidwadol cyn gynted â phosib,” meddai Nigel Evans.