Mae cyn-Brif Weinidog Ffrainc a’i wraig o Gymru yn wynebu achos llys yn sgil cyhuddiadau’n ymwneud â thwyll.

Yn ystod y ras am yr arlywyddiaeth yn 2017, fe honnwyd bod Francois Fillon wedi talu mwy na ₤1m i’w wraig, Penelope, sy’n wreiddiol o Lanofer, Sir Fynwy, a dau o’u plant drwy gyfrwng swyddi seneddol nad oedden nhw’n cynnwys unrhyw fath o waith.

Mae swyddog barnwrol wedi cadarnhau adroddiad ym mhapur Le Monde bod y pâr priod yn gorfod mynd o flaen eu gwell.

Mae’r gŵr a fu’n Brif Weinidog Ffrainc rhwng 2007 a 2012 wedi gwadu gwneud dim o’i le, gan ddweud bod yr honiadau yn ei erbyn wedi bod yn ymgais i danseilio ei ymgyrch arlywyddol.