Mae’r heddlu wedi apelio i’r person sy’n gyfrifol am saethu dyn â bwa croes yn Ynys Môn i gysylltu â nhw.

Cafodd Gerald Corrigan, 74, ei saethu y tu allan i’w gartref ger Caergybi yn oriau mân fore Gwener.

Mae Mr Corrigan yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearny ei fod yn gobeithio y bydd y saethwr yn “gwneud y peth iawn”.

Symudodd Mr Corrigan, cyn-ddarlithydd ffotograffiaeth yn Sir Gaerhirfryn, i fyw i Ynys Môn dros 20 mlynedd yn ôl.

Dywedodd yr heddlu ei fod yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu tu allan i’w gartref ger y gyffordd rhwng Lôn Porthdafarch a Ffordd Plas.

Yn ôl yr heddlu mae Mr Corrigan wedi dioddef anafiadau “ofnadwy” ar ôl i’r saeth ei daro yn ei fron a’i fraich dde.

Dywedodd Mr Kearney: “Rydw i’n apelio i’r person a saethodd y bwa croes i ddod yn ei flaen. Mae’r ymchwiliad yn gwbl ddiduedd a dwi’n siŵr y byddai unrhyw un a saethoddodd unigolyn arall ar ddamwain wedi eu heffeithio yn ofnadwy.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un sy’n ymwneud â hela neu reoli pla yn ardal Ynys Lawd.