Mae dyn 41 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar ddynes yn Abertyleri.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn y dref ddydd Mercher, Ebrill 10.

Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o dresmasu gyda’r bwriad o ymosod yn rhywiol.

Mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.