Mae Hefin David, Aelod Cynulliad Llafur Caerffili, yn dweud bod paentio’r geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’ mewn amryw leoliadau yng Nghymru “mor cŵl â darlunio Che Guevara ar eich bin sbwriel”.

Mae’n dweud bod yr ymdrechion ar lawr gwlad i goffáu boddi’r cwm yn “tanseilio’r gofeb wreiddiol” sydd wedi cael ei difrodi sawl gwaith yn ddiweddar.

Mae pobol ar hyd a lled Cymru’n paentio’r slogan wrth ymateb i’r weithred o ddifrodi’r wal adnabyddus yn Llanrhystud yng Ngheredigion, cofeb a gafodd ei phaentio’n wreiddiol gan Meic Stephens.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod yn trin y difrod fel trosedd gasineb.

Anwybodaeth

Mewn llif negeseuon ar dudalen Twitter Hefin David, mae nifer o bobol yn tynnu sylw at bwysigrwydd y sloganau wrth addysgu pobol Cymru am eu hanes.

Mae Hefin David yn dweud mewn un neges ei bod “mor hawdd defnyddio Google”, a bod “chwistrellu geiriau mewn paent ar ymyl y ffyrdd yn fwy wanksy na banksy”.

Ond mae’n mynd yn ei flaen i nodi’n anghywir mai yn Abertawe, ac nid Port Talbot, y cafodd darlun Bansky ei ddarganfod ar ymyl garej.

Mae’n dweud bod paentio’r slogan ‘Cofiwch Dryweyn’ wedi cael ei wneud allan o “drasiedi” y tro cyntaf, ond o “ffars” yr ail dro.

Wrth ymateb, mae Bethan Sayed, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, yn dweud mai “mudiad” yw Cofiwch Dryweryn, ac nid “ffars”.

Doethuriaeth ond “ddim mewn Hanes Cymru”

Wrth ymuno yn y ffrae, mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, yn cwestiynu gwybodaeth Hefin David am hanes Cymru.

“Dywedwch wrthym ym mha beth oedd eich doethuriaeth? Nid mewn Hanes Cymru, mae’n amlwg,” meddai.

Mewn neges arall, mae’n dweud ei fod yn “cwestiynu eich capasiti deallusol ynghylch hanes Cymru”.