Mae dyn oedrannus yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo gael ei saethu â bwa croes ger Caergybi.

Fe dderbyniodd Gerald Corrigan anafiadau all beryglu bywyd yn y digwyddiad tu allan i’w gartref yn oriau mân fore Gwener.

Mae Heddlu’r Gogledd bellach yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un sy’n ymwneud â hela neu reoli pla yn ardal Ynys Lawd.

Oherwydd natur ei anafiadau, dywedodd yr heddlu fod Mr Corrigan, sy’n 74 oed, bellach wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty yn Stoke-on-Trent.

Dywedodd ei deulu eu bod nhw’n ceisio dod i delerau â’r digwyddiad “dychrynllyd” yma.

“Allwn ni ddim meddwl am unrhyw un fyddai eisiau anafu ein tad a’n partner annwyl,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth o gwbl am yr hyn sydd wedi digwydd, waeth pa mor fach, dywedwch wrth yr heddlu.

“Hoffem dalu teyrnged i’r gwasanaeth ambiwlans a’r staff meddygol am y gwaith anhygoel maen nhw wedi’i wneud.

“Rydym yn parhau’n obeithiol ac yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon.”

Dywedodd yr heddlu bod Mr Corrigan yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu tu allan i’w gartref ger y gyffordd rhwng Lon Porthdafarch a Ffordd Plas.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru fod staff meddygol a gweithwyr ambiwlans “wedi brwydro i arbed bywyd y dyn.”

Ychwanegodd fod y digwyddiad yn “anarferol iawn” ar gyfer yr ardal a’u bod nhw’n benderfynol o ganfod y sawl sy’n gyfrifol mor fuan â phosib.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.