Bydd Cymru a gweddill Ynysoedd Prydain yn mwynhau rhagor o heulwen dros Wyl y Banc gyda’r tymheredd yn debyg o dorri’r record ar gyfer y Pasg.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd y rhan fwyaf o’r Deyrnas Gyfunol yn gweld awyr glir a thymheredd cynnes dros benwythnos y Pasg, gan gyrraedd cyn uched a 27C ddydd Llun y Pasg.

Er y dywedir ei fod yn anhebygol y bydd y tymheredd yn cyrraedd yr uchaf erioed, fe allan nhw fod gyda’r uchaf.

Y tymheredd uchaf a recordiwyd dros y Pasg yn flaenorol oedd 29.4C, yn Sgwar Camden, Llundain ddydd Sadwrn y Pasg yn 1949, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Dywedodd y meteorolegydd Sophie Yeomans ei fod yn anhebygol y bydd y tymheredd yn cyrraedd yn uwch na hyn.