Mae dyn mewn cyflwr difrifol wedi iddo gael ei saethu â bwa croes ger Caergybi yn oriau man y bore yma (dydd Gwener).

Cafodd y dyn 74 oed yr anafiadau difrifol y tu allan i’w gartref ger y gyffordd rhwng Lon Porthdafarch a Ffordd Plas.

Galwyd y gwasanaethau brys am 00:34 a chludwyd y dyn i Ysbyty Gwynedd, Bangor lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney fod y digwyddiad yn “anarferol iawn”  a’u bod nhw’n benderfynol o ganfod y sawl sy’n gyfrifol mor fuan â phosib.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.