Porthmadog (eto) yng Ngwynedd yw un o’r llefydd cynhesaf yng Nghymru heddiw wrth i’r tymheredd godi i 22 gradd.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd  mae’r tywydd yn gynhesach nag arfer oherwydd pwysedd uchel sy’n dod ag awyr o gyfandir Ewrop a heddiw yw diwrnod cynhesaf y flwyddyn hyd yma.

Heddiw ag yfory fydd y tywydd ar ei orau yma ledled ein gwlad gyda’r haul yn tywynnu’n ddi-baid.

Disgwylir y gall y tymheredd godi i 23 gradd Celsiws yfory gyda’r tywydd hyd yn oed yn gynhesach na llefydd heulog ar y Cyfandir – ond bydd yn fwy cymylog erbyn dydd Llun.

Mae rhybudd o gawodydd o law yn dychwelyd hefyd ddechrau’r wythnos nesaf.

Ond, yn y cyfamser, mae miloedd o bobol yn mwynhau eu hunain ar ein traethau, llwybrau a mynyddoedd heddiw gan wneud y mwyaf o’r heulwen.

Ac wrth i bobol fynd ati i drefnu eu gwyliau, dywed y gwybodusion tywydd y gall Ynysoedd Prydain fod yn boethach na St Tropez, Ffrainc,  Corfu, Bodrum, Twrci, neu hyd yn oed Marbella ac ynys Majorca dros yr wythnosau nesaf.