Mae cwmni o Sir Benfro, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu siocled figan, yn dweud bod yna “alw mawr” am eu cynnyrch.

Cafodd So Sweet Couture ei sefydlu bron i dair blynedd yn ôl gan y cyn-fodel, Chloe Valentine Whittock, a benderfynodd ddychwelyd i’w chartref ger Arberth ar ôl diflasu ar fywyd yn ninas Llundain.

Erbyn hyn, mae’r cwmni yn dosbarthu siocled – sydd ddim yn cynnwys cynnyrch llaeth – i siopau a chwmnïau bychain ledled Cymru a thu hwnt.

Yn fwy diweddar, fe wnaeth y cylchgrawn Vegan Food and Living gynnwys y cwmni mewn rhestr sy’n nodi’r 10 gwerthwr siocled figan gorau yng ngwledydd Prydain adeg y Pasg.

Figaniaeth ar gynnydd

“Dyma’r sector bwyd sy’n tyfu cyflyma’ ar hyn o bryd, gydag archfarchnadoedd bellach yn gwerthu cynnyrch figan,” meddai Jane Blaseford, llefarydd ar ran So Sweet Couture.

“Mae yna alw mawr am siocled sy’n blasu’n dda, a does braidd neb, ar wahân i Chloe, yn cynhyrchu cynnyrch figan i’w anrhegu…

“Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn tyfu, ac yn mynd yn fwy. Fe ddechreuodd Chloe yng nghegin y fferm dwy flynedd a hanner yn ôl, ac yn fuan fe ddaeth y lle’n rhy fach iddi.

“Fis Mai y llynedd, fe wnaeth hi adnewyddu ysgubor, ac mae bellach ganddi gegin a ffatri i gynhyrchu’r siocled.”

Y Pasg – “mae’n anferth”

Fe gychwynnodd y gwaith o baratoi ar gyfer y Pasg ddechrau mis Ionawr, meddai Jane Blaseford, gyda dros 5,000 o wyau bychain, ymhlith cynnyrch eraill, yn cael eu cynhyrchu.

Mae’n ychwanegu bod y cyfan erbyn hyn wedi gwerthu, ac ar ôl seibiant byr dros benwythnos y Pasg, fe fydd y paratoadau ar gyfer y Nadolig yn cychwyn go iawn yr wythnos nesaf.

“Mae cyfnod y Pasg wedi bod yn prysuro ers dechrau mis Ionawr, a’r wythnos nesaf fe fyddwn ni’n cychwyn ar y cynnyrch Nadolig,” meddai.

“Y Pasg a’r Nadolig yw’r cyfnodau mwyaf prysur.”