Mae cwmni bwyd yn Eifionydd yn dweud nad yw cynhyrchu wyau Pasg â llaw “yn werth y drafferth”, oherwydd y gystadleuaeth ffyrnig gydag archfarchnadoedd a chwmnïau mawr.

Mae Pleser Pur, sy’n gyfrifol am y deli yn yr Hen Fanc ym mhentref Penygroes, wedi bod yn cynhyrchu amrywiaeth o fwydydd, gan gynnwys tryffls, tshytnis a siocledi, ers pum mlynedd.

Yn ôl perchennog y cwmni, Iwan Williams, mae cyfnod y Pasg yn adeg lle mae siocled yn boblogaidd gan gwsmeriaid, ond er iddo ar un adeg gynhyrchu ei wyau Pasg ei hun, mae bellach wedi rhoi gorau i’r fenter.

Mae hynny oherwydd yr oriau hir sydd angen ar gyfer eu paratoi, meddai, a’r ffaith bod yr archfarchnadoedd yn gwerthu eu hwyau nhw am “brisiau rhad”.

“Mae’n costio pedair neu bum gwaith yn fwy er mwyn cael y cynhwysion,” meddai Iwan Williams.

“Fel arfer hefyd, mae’n cymryd oriau i’w gneud. Mae’r rhai mawr yn cymryd hyd at ddiwrnod i’w gneud, felly dydy o ddim gwerth y drafferth.

“Does gan bobol ddim mo’r arian i dalu £15 am ŵy Pasg.”

Bariau a siocled figan yn fwy poblogaidd

Er mai’r haf a’r Nadolig yw adegau prysuraf y flwyddyn i Pleser Pur, yr hyn sy’n gwerthu gorau adeg y Pasg yw bariau siocled, meddai Iwan Williams, sy’n fwy “gwerth yr arian” nag wyau.

“Rydan ni’n gwerthu mwy o siocled adeg y Pasg,” meddai.“Dw i’n meddwl mai beth mae lot yn mynd amdano yw bariau siocled, achos maen nhw’n cael yr un faint o siocled mewn bar am ganran bach o’r pris.

“Rydyn ni’n gallu eu gwneud nhw’n gynt hefyd.”

Siocled i figaniaid

Mae Iwan Williams hefyd yn dweud mai’r math o fwyd sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd erbyn hyn yw siocled figan.

Yn hytrach nag wyau Pasg, mae’r cwmni wedi troi at greu tryffls figan, sy’n profi’n ffefryn gan bobol Eifionydd, meddai’r cogydd sydd ei hun ddim yn bwyta cynnyrch llaeth oherwydd alergedd.

“Rydan ni’n gneud tryffls figan,” meddai. “Rydan ni’n gneud lot o fwyd figan yn y deli hefyd…

“Mae yna alw am fwyd figan. Rydan ni mewn ardal ofnadwy o wledig, ac hyd yn oed yn fa’ma, mae [figaniaeth] ar gynnydd.”