Mae llanc yn ei arddegau wedi cael ei arestio yn gysylltiedig â marwolaeth bachgen yn ardal Caerffili.

Cafodd Carson Price, 13, ei ddarganfod yn farw mewn parc yn Ystrad Mynach ar dydd Gwener yr wythnos diwethaf.

Ac mae’r heddlu yn credu bod “sylweddau anghyfreithlon” wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Yn sgil cyrch ar adeilad ym Mhontllanfraith, y Coed Duon, ar dydd Iau (Ebrill 4), mae bachgen 14 blwydd oed ei arestio.

Mae’r llanc wedi ei arestio ar amheuaeth o ddarparu cyffuriau dosbarth A.

Apêl am wybodaeth

“Ar hyn o bryd, mae e yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Canolog Casnewydd,” meddai’r Ditectif Prif Arolygydd o Heddlu Gwent, Alun Davies.

“Mi fydd yn cael ei gyfweld gydag oedolyn yn bresennol fel rhan o’n hymchwiliad. Dw i’n annog unrhyw un sydd gyda rhagor o wybodaeth a allai helpu ein hymchwiliad i gysylltu â Heddlu Gwent.”