Mae gwasanaeth fferi newydd wedi adfer “cysylltiadau” rhwng dau bentref ar bob ochr i afon Tywi.

Dyna farn Anne Howells, Capten y fferi a Rheolwr Gweithrediadau i Fferïau Bae Caerfyrddin.

Ers canrifoedd mae fferi wedi bod yn cludo pobol rhwng pentrefi Llansteffan a Glan y Fferi, ond 60 mlynedd yn ôl daeth y gwasanaeth i ben.

Yn dilyn cais llwyddiannus am arian, mae’r gwasanaeth bellach wedi cael ei aildanio, ac mae Anne Howells yn credu bod hynny o fudd i’r pentrefi.

“Yn ystod cyfnod ymgynghori cynnar mi gynhaliom arolwg ar bob ochor,” meddai wrth golwg360. “A doedd llawer o’r trigolion erioed wedi bod [ym mhentref yr ochr arall].

“Mae’r gwasanaeth yma yn awr yn rhoi’r opsiwn i bobol. Dim ond deg munud o daith yw hi ar groes yr afon. Mae’r cysylltiadau yna [rhwng y ddwy ochr] yn ôl.”

Mae’n dweud bod digwyddiadau “cross channel” eisoes wedi dechrau cael eu cynnal, ac ar dydd Sul (Ebrill 21) bydd helfa wyau Pasg yn cael ei chynnal ar bob ochr i’r afon.

Pererindod

Mae Anne Howells yn pwysleisio dyfnder hanes y gwasanaeth fferi, ac mae’n egluro ei fod wedi cyflawni rôl wahanol iawn yn y gorffennol.

“Yn wreiddiol, cafodd y fferi ei sefydlu 1,000 o flynyddoedd yn ôl,” meddai. “A chafodd ei sefydlu i fod yn rhan o lwybr y pererinion i Dŷ Ddewi.

“Felly roedd pobol yn mynd ar y fferi, ac yn ymweld â Ffynnon Antwn Sant [yn Llansteffan]. Mae gan y ffynnon yna healing powers yn ôl y sôn.

“Mae’r cysylltiad hanesyddol yn mynd yn ôl blynyddoedd maith.”

Er bod llwybr y bererindod yn llai poblogaidd bellach, mae’r capten yn egluro bod llif cyson o bobol yn manteisio ar y gwasanaeth wrth deithio ar hyd y llwybr arfordirol.

“Felly mae yna ryw fath o bererindod yn digwydd o hyd,” meddai am hynny. “Ond nid pererindod Gristnogol mohoni!”

Cefndir

Ar Awst 10 y llynedd fe ddechreuodd ‘cyfnod prawf’, ac ers hydref y llynedd mae’r gwasanaeth wedi bod yn weithredol.

Am gyfnod o ddwy flynedd bydd y fenter yn cael ei ariannu gan grant £300,000 gan y ‘Gronfa Cymunedau Arfordirol’. Pan ddaw’r cyfnod yma i ben bydd yn rhaid i’r gwasanaeth fod yn hunangynhaliol.

“Diben y grant yw dod â’r gwasanaeth yn ôl i’r ardal, a chyflogi pobol leol,” meddai Anne Howells. “Mae wedi bod yn brilliant. Mae wedi bod yn dda iawn i’r ddwy gymuned.

“Doedd dim byd yma cyn hynny. Mae pobol wedi dod o bob cwr o’r wlad. Ac r’yn ni wedi cael pobol o Ganada, Seland Newydd ac Awstralia.

“Daethon nhw lawr i fod ar y llong. Roedden nhw wedi clywed am y llong yn y cyfryngau, ac ar gyfryngau cymdeithasol.”