Fe fydd tafarn Y Ffarmers ym mhentref Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth yn ailagor ei drysau ar ddechrau mis Mai, a hynny mwy na blwyddyn ers iddi gael ei difrodi gan dân.

Bu’n brofiad “torcalonnus” i’r perchnogion pan welon nhw’r dafarn – yr oedden nhw newydd ei phrynu chwe mis ynghynt – yn wenfflam ar Ionawr 27 y llynedd.

Cafodd y cyfan o’r llawr uchaf ei ddifrodi, yn ogystal â rhannau helaeth o’r llawr isaf, meddai Caitlin Morse, sy’n berchen ar y dafarn ar y cyd â Lewis Johnston.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ddau wedi bod yn brysur yn ailadeiladu, yn ogystal â bod yn gyfrifol am dafarn arall, sef y Druid Inn yn Goginan, a busnes llogi ‘bar symudol’, sef bar mewn treilar ceffylau.

Dywed Caitlin Morse eu bod nhw wedi ceisio adfer “cymaint â phosib” o gymeriad yr hen dafarn yn Llanfihangel y Creuddyn, ond “fe fydd yn wahanol,” meddai wedyn.

Mae hi hefyd yn dweud bod y gefnogaeth yn lleol yn ystod y misoedd diwethaf wedi bod yn “anhygoel”.

“Mae’r holl bentrefwyr wedi bod yn gefnogol iawn,” meddai wrth golwg360. “Rydyn ni wedi cael negeseuon o bedwar ban y byd hefyd…

“Rydyn ni’n mynd i gael parti bach ar gyfer trigolion y pentref yn gyntaf, cyn agor y drysau i’r cyhoedd rhai diwrnodau yn ddiweddarach.

“Rydyn ni wir yn edrych ymlaen i weld pawb. Mae wedi bod yn rhy hir.”