Mae mam a mab o Geredigion wedi eu dedfrydu i chwe mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, yn dilyn “achos erchyll” o esgeuluso gwartheg ar eu fferm.

Cafodd Margaret Cooper, 80, a Norman Richard Cooper, 55, o Fangor Teifi ger Llandysul eu dedfrydu yn Llys Ynadon Aberystwyth ar ôl pleidio’n euog i farwolaeth ac esgeulustod 84 o wartheg.

Roedd swyddogion wedi ymweld â fferm Gilfachwith fis Mai y llynedd, lle y daethon nhw ar draws golygfeydd o “ddinistr llwyr”, gyda chyrff gwartheg yn pydru mewn siedau da byw.

Fe wnaethon nhw hefyd weld bod y gwartheg byw yno yn dioddef o “esgeulustod diangen”, ac ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion gymryd yr anifeiliaid i’w meddiant, bu’n rhaid i rai ohonyn nhw gael eu lladd oherwydd y “cyflyrau iechyd difrifol” oedd arnyn nhw.

“Amgylchiadau erchyll”

“Nid yw’r Swyddogion Iechyd Anifeiliaid a oedd yn ymwneud â’r achos hwn erioed wedi gweld y fath amodau gwarthus ar unrhyw fferm drwy gydol eu gyrfa,” meddai Alun Williams, un o swyddogion Cyngor Sir Ceredigion.

“Mae’r rhan fwyaf o’r staff o gefndir amaethyddol, ond fe wynebon nhw amgylchiadau erchyll wrth ymchwilio ac wrth fynd i gasglu’r anifeiliaid byw a’r carcasau.

“Nid yw’r achos hwn yn adlewyrchu’r safonau gofal uchel a welir fel rheol wrth drin anifeiliaid ar y ddwy fil a hanner o ffermydd sydd yng Ngheredigion.”

Mae’r fam a’r mab wedi eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am ddeng mlynedd, ar wahân i’r pedwar ci oedrannus sydd yn eu meddiant.

Mae Norman Richard Cooper hefyd wedi ei orchymyn i gyflawni 150 awr o waith di-dâl, tra bod e a’i fam yn gorfod talu £2,500 yr un mewn costau, ynghyd â gordal dioddefwr o £115 yr un.