Mae yna “baralel anghyffyrddus iawn” rhwng yr atmosffer gwleidyddol sydd ohoni, a sefyllfa wleidyddol yr Almaen cyn dyfodiad y Natsïaid.

Dyna farn yr Athro Merfyn Jones a fu’n siarad mewn digwyddiad ymylol yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno ar dydd Sadwrn (Ebrill 13).

Cyfarfod Cymdeithas Cledwyn – grŵp Gymraeg y blaid – oedd y digwyddiad, a ‘gosod Brexit mewn cyd-destun hanesyddol’ oedd y pwnc trafod.

Yn siarad yn y cyfarfod, dywedodd yr hanesydd bod yna debygrwydd rhwng y Deyrnas Unedig – wedi refferendwm Brexit – a chyfnod Gweriniaeth Weimar.

“Mae yna baralel anghyffyrddus iawn rhwng y ddau beth,” meddai.

“Dw i ddim yn dweud bod Prydain mor fregus ag oedd Llywodraeth Weimar. Ond, roedd y Natsiaid yn bron yn ddim ar ôl y Rhyfel [Byd Cyntaf] – hyd at y 1920au.

“Beth wnaeth eu bwydo oedd y dirwasgiad economaidd. Rydym ni wedi cael un yn barod – deg blynedd yn ôl. Mi fethodd cyfalafiaeth yn 2008 – y collapse.”

Yn ôl i’r 1930au

Un tebygrwydd rhwng y ddau gyfnod yw’r iaith a thermau sy’n cael eu defnyddio, yn ôl yr hanesydd.

“Y syniad mawr gan Hitler a’r Natsiaid oedd eu bod wedi cael eu bradychu,” meddai.

“Doedden nhw ddim wedi colli’r rhyfel, ond roedden nhw wedi cael eu bradychu gan y sosialwyr, comiwnyddion a’r Iddewon.

“Ac rydan ni’n clywed yr un rhethreg – ac yr un iaith – trwy’r amser. Y syniad yma am ewyllys y bobol

“… Mae’r iaith yma’n cael ei ddefnyddio yn awr gan y dde – nid jest y dde eithafol, ond y Torïaid hefyd. Mae’r iaith maen nhw’n ei ddefnyddio yn debyg iawn i’r iaith yna.

“‘Rydym ni wedi cael ein bradychu’ … Mae yna adlais anghyffyrddus iawn o’r 1930au.”