Mae aelodau Yes Cymru Pen-y-bont ar Ogwr wedi paentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar wal yn y dref.
Fe ddaw yn dilyn helynt difrodi’r wal wreiddiol yn Llanrhystud dros y penwythnos, a sawl digwyddiad tebyg dros yr wythnosau diwethaf.
Yn ôl cyfrif Twitter y gangen, cafodd y criw ganiatâd Freya Sykes, perchennog siop losin Ella Riley, i baentio’r arwydd ar ochr yr adeilad ar Stryd Nolton y dref.
YesCymru Penybont ar Ogwr respond to Tryweryn’s call, who will follow suit? pic.twitter.com/vJPnHva9h6
— YesCymru Penybont ar Ogwr | Bridgend (@YesBridgend) April 14, 2019